Rhif y ddeiseb:P-06-1302

Teitl y ddeiseb: Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Geiriad y ddeiseb: Mynyddoedd Cambria: awyr agored ddiddiwedd, bioamrywiaeth eithriadol, bryniau a dyffrynnoedd ysblennydd, 5,000 o flynyddoedd o dreftadaeth, megis yr iaith Gymraeg, ffermio a mwyngloddio. Mae’r ymdeimlad o ehangder a heddwch yn neilltuol.

Yn anffodus, ychydig o sylw a gaiff y dasg o warchod yr ucheldiroedd hyn. Caiff ffermydd eu prynu ar gyfer plannu coed conwydd neu ar gyfer adeiladu ffermydd gwynt mawr, a hynny er gwaethaf y diffyg seilwaith sydd yno.

Mae angen gwarchod rhanbarth mor brydferth A HEFYD sicrhau cyflogaeth yng nghefn gwlad yn y tymor hwy. Dylid dynodi Mynyddoedd Cambria fel yr ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf yng Nghanolbarth Cymru!

Mae mawndiroedd y Mynyddoedd Cambria yn lliniaru newid hinsawdd drwy amsugno carbon sydd wedi’i greu gan bobl, ac maent yn lleihau llifogydd dŵr afon. Mae coetiroedd a ffeniau brodorol bioamrywiol yn meithrin planhigion, anifeiliaid ac adar gwerthfawr. Mae adar ysglyfaethus yn hedfan uwchben; mae gwiwerod coch, dyfrgwn a bele'r coed yn crwydro; mae gloÿnnod byw, gweision y neidr, buchod coch cwta a 15 math o chwilod y dom yn galw’r llecyn hwn yn gartref! Mae ffermydd gwasgaredig, carneddau, capeli ac adfeilion yn cofnodi bywydau a gwaith pobl yma ers yr Oes Efydd.

Byddai dynodi’r ardal hon yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu, anghenion cymunedau lleol AC anghenion pobl o ran mwynhau mannau gwyrdd. Mae ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol sy’n bodoli eisoes – fel Gŵyr, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – yn ffynnu ac ar yr un pryd yn hyrwyddo a chadw tirweddau Cymru ar gyfer pawb.

Mae angen i ni oedi ac ystyried yn ofalus: Mae gwleidyddion yn codi pryderon am gynlluniau ffermydd gwynt (mynewtown.co.uk). Bydd plannu coed ar raddfa fawr yn anrheithio cymunedau gwledig, meddai undeb ffermio (nation.cymru). Os caiff Mynyddoedd Cambria frand mawreddog fel ardal o harddwch naturiol eithriadol, ac os caiff y mynyddoedd eu rheoli mewn modd cydlynol, bydd y rhanbarth yn sicr o ffynnu!

 

 


1.        Cefndir

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru wedi cael eu dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949 (‘Deddf 1949’ o hyn ymlaen’).Gyda'i gilydd mae'r 'Tirweddau Dynodedig' hyn yn cwmpasu tua 25 y cant o Gymru. Er bod gan Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau) ddibenion statudol gwahanol, gyda'i gilydd maent yn ceisio:

§    gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol; a

§    hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau eu nodweddion arbennig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru  yn dweud bod AHNEau yn cael eu "diogelu gan y gyfraith ar sail nodweddion arbennig eu tirwedd, eu bywyd gwyllt, eu daeareg a’u daearyddiaeth". Mae’r dynodiad yn sbarduno rhwymedigaethau sy’n ymwneud â chynlluniau datblygu, ac yn caniatáu creu gorchmynion mynediad a sefydlu byrddau cadwraeth.

Mae AHNEau yn wahanol i'r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal.

Mae Cymru yn gartref i bedwar AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llŷn a Gŵyr - ac at hynny, mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri).

Dynodi Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau)

Yn wreiddiol roedd y pŵer i ddynodi AHNEau wedi'i gynnwys yn Neddf 1949 ond cafodd hyn ei addasu gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(‘Deddf 2000’ o hyn ymlaen). O dan adran 82 o Ddeddf 2000, gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi unrhyw ardal yng Nghymru (nad yw'n Barc Cenedlaethol eisoes) yn AHNE os yw'r ardal mor eithriadol o hardd yn naturiol, dylid ei gwarchod a'i gwella. Ceir rhagor o wybodaeth am y weithdrefn ar gyfer dynodi AHNEau yn adran 83 o Ddeddf 2000.

Mewn ymateb i'r ddeiseb hon, dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd (o hyn ymlaen, 'y Gweinidog') fod Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yn “archwilio'r achos ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol newydd yn y gogledd-ddwyrain”, a dywedodd hefyd bod “hon yn broses helaeth a chynhwysfawr a dyma fydd y flaenoriaeth i CNC dros y blynyddoedd i ddod o ran dynodiadau newydd”.

Cynllunio

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud “caiff AHNE eu diogelu i raddau mwy nag ardaloedd eraill dan y broses gynllunio". Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru – Polisi Cynllunio Cymru - yn nodi bod yn rhaid diogelu AHNEau “yn llwyr rhag datblygiadau anaddas” (gweler adran 6.3.8, tudalen 134).

Felly, gall rhoi statws AHNE olygu bod yr awdurdod cynllunio lleol yn defnyddio rheolaethau datblygu llymach yn yr ardal wrth lunio’r cynllun datblygu lleol, ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi “ni ddylai datblygiadau mawr ddigwydd mewn Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol”. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cyd-fynd â Pholisi Cynllunio Cymru – Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 - sy'n ffurfio'r cynllun datblygu cenedlaethol. Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dweud “ni chaniateir datblygiadau ynni gwynt nac ynni'r haul mawr mewn Parciau Cenedlaethol nac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol”.

Byddai rhoi statws AHNE hefyd yn cael effaith ar ddatblygiadau tai llai, a byddai rhai hawliau datblygu a ganiateir yn cael eu dileu.

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol

Mae adran 89 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol y mae AHNE yn ei ardal i baratoi a chyhoeddi cynllun rheoli AHNE y mae’n rhaid ei adolygu bob 5 mlynedd. Bydd gan hyn oblygiadau o ran adnoddau i'r awdurdod lleol.

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Cynhaliwyd adolygiad o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn 2015, a chanlyniad hynny oedd ‘Adroddiad Marsden'a wnaeth 69 o argymhellion.

Yn ddiweddarach, sefydlwyd Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru i archwilio argymhellion Adroddiad Marsden, a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2017. Mae erthygl gan Ymchwil y Senedd yn trafod yr adroddiad ymhellach.

Yna, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Blaenoriaethau ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol 2018 (gwerthfawr a chydnerth)), sy’n nodi pedwar nod ar gyfer AHNEau a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru, sef:

§    eu bod yn Lleoedd Gwerthfawr;

§    bod ynddyn nhw Amgylcheddau Cydnerth;

§    eu bod yn cynnal Cymunedau Cydnerth; a

§    rhaid i bartneriaethau'r AHNE ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol fabwysiadu Ffyrdd Cydnerth o Weithio.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, sydd ar hyn o bryd yn AHNE.

Yn ei hymateb i'r ddeiseb hon, mae'r Gweinidog yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru "wedi ymrwymo i gynnal asesiad technegol o harddwch naturiol ar gyfer Cymru gyfan":

Y bwriad yw y bydd hyn yn asesu ardaloedd yn erbyn y meini prawf harddwch naturiol a fydd yn helpu i asesu’r angen posibl i’w diogelu yn y dyfodol.

Mae'r Gweinidog yn estyn gwahoddiad i'r deisebydd gwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, “i drafod manylion nifer o agweddau ar y cynnig i ddynodi”.

3.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Ni fu unrhyw weithgarwch gan y Senedd ynglŷn â dynodi Mynyddoedd Cambria yn AHNE.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.